10 Mawrth 2026
Golygydd Gwadd: Mel Davies
Rydym yn falch iawn croesawu Mel Davies fel Golygydd Gwadd rhifyn un o (an)arferol.
“Dwi’n chwilio am waith sy’n gwneud i mi ddealrl a theimlo poen, cynddaredd a gobaith. Dwi’n chwilio am leisiau eofn sy’n rhwygo a datgymalu a dod a phethau yn ôl at ei gilydd trwy eu geiriau. Dwi’n chwilio am barch at y testun a gonestrwydd.”
Bardd a llenor sy’n byw a gweithio yn Nyffryn Ogwen yw Meleri Davies. Mae wedi cyhoeddi ei gwaith mewn nifer o gyfnodolion a cyhoeddwyd ei chyfrol cyntaf o farddoniaeth Rhuo ei distawrwydd hi gyda Cyhoeddiadau’r Stamp (2024). Enillodd y gyfrol honno Wobr Llyfr y Flwyddyn 2025 yn y categori barddoniaeth Gymraeg ac mae’r gyfrol wedi ei hail-argraffu bedair gwaith mewn cyfnod o 9 mis. Mae Meleri yn angerddol am gymunedau, cynaladwyedd a chreadigrwydd. Mae hi bellach yn ymgyngorydd datblygu cymunedol llawrydd ac yn ymarferydd creadigol, ac yn rheoli a chynllunio prosiectau ac yn hwyluso gweithdai ysgrifennu creadigol.
Meleri Davies is a poet and writer from Dyffryn Ogwen, Wales. She is known for her poetry collection “Rhuo ei distarwydd hi” (Roaring Her Silence), which was published in Nopvember 2024 and has won the Wales Book of the Year 2025 award for Welsh-language poetry. Her work reflects her passion for communities, sustainability, and creativity, and she has been involved in community development and environmental initiatives.

